Bydd y seremoni, y brecwast priodas yn ogystal ȃ'r parti nos yn digwydd ar safle Coleg Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Gofynnwn i chi ddefnyddio prif fynedfa'r coleg fel dangosir yn y llun isod.
Coleg Brenhinol Cerdd A Drama Cymru
Maes y Castell
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ER
What3words ///cafe.sock.deals
Mae'r safle wedi ei leoli ar gyrion Parc Biwt a chyferbyn y Deml Heddwch.
Gallwch gyrraedd ar droed yn rhwydd o ganol y ddinas trwy ddilyn heol y gogledd o amgylch waliau'r castell, neu gallwch gerdded drwy Barc Biwt os yn croesi'r Taf o'r gorllewin.
Os nad ydych yn ffansi cerdded, byddwn yn argymhell defnyddio'r gwasanaeth tacsi lleol, Dragon's Taxis (02920 333 333) neu Uber. Byddwch yn ymwybodol bod y gwasanaethau yma (yn enwedig Uber) yn gallu bod yn annibynadwy felly sicrhewch eich bod yn archebu mewn da bryd.
Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog o ddeutu ugain munud i ffwrdd. Mae dwsinau o lwybrau bws hefyd yn mynd heibio'r safle.
Nodwch bydd amseroedd o bosib yn newid yn nes at yr amser
Bore
Gofynnwn i chi gyrraedd prif fynedfa'r safle yn brydlon erbyn 11:15 y.b., lle bydd ein tywyswyr yn eich tywys i'ch seddi yn neuadd y Dora Stoutzker.
Prynhawn
Wedi'r sermoni byddwn yn ymgynull i gael canapes a diodydd (yn yr haul gobeithio!) ac i dynnu lluniau. Bydd cyfle i ddilyn y priodfab a'r briodferch am dro byr tuag at y castell cyn dilyn yr afon yn ol at y safle. Byddwn yn eistedd ar gyfer pryd o fwyd tri chwrs (gweler y fwydlen). Bydd areithiau gan ein teulu a ffrindiau yn dilyn.
Gyda'r Nos
Am 7 o'r gloch bydd y gwestai nos yn cyrraedd, a bydd y band yn dechrau chwarae yn fuan wedi hynny. Bydd y bar yn cau am 12.30 yr hwyr a bydd angen i bawb adael y safle erbyn 1 y bore.
Ar ddydd Sadwrn byddwn yn ymgynull mewn tafarn leol i barhau gyda'r dathlu a mae croeso i bawb sydd eisiau ymuno!
Eich cwmni sydd bwysicaf i ni, ond os dymunwch roi anrheg byddwn ni'n gwerthfawrogi cyfraniad ariannol tuag at ein mis mȇl.
Mae croeso i chi gysylltu i holi unrhyw gwestiynnau ychwanegol. Mae Ciaran llawer gwell am ateb ei negeseuon na Gwenllian fodd bynnag! Cysylltwch gyda Ciaran ar 07375119484.